P-05-694 – Amseroedd Ysgol Awr yn Hwyrach
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cai Ellerton ar ôl casglu 16 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rwyf yn ysgrifennu i ofyn ichi ystyried fy neiseb. Fel mae rhieni, athrawon a myfyrwyr/disgyblion yn gwybod, mae ysgolion cynradd yn dechrau am 08:45 ac mae ysgolion uwchradd yn dechrau am 08:30. Hoffwn i ysgolion ddechrau awr yn hwyrach yn y bore, sy'n golygu y byddai ysgolion cynradd yn dechrau am 09:45 ac ysgolion uwchradd yn dechrau am am 09:30.
Mae prawf yn Lloegr wedi dangos bod myfyrwyr yn sicrhau gwell canlyniadau arholiad os yw ysgol yn dechrau awr yn hwyrach.
Diolch ichi am ystyried y cais hwn.
Cai Ellerton, 13.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Bro Morgannwg
· Canol De Cymru